R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo diogelwch tân yng Nghymru? OAQ(4)1871(FM)
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar welliannau i'r M4? OAQ(4)1867(FM)
3. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i ddatblygu'r Metro ar gyfer de-ddwyrain Cymru? OAQ(4)1880(FM)
4. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gapasiti presennol yr M4? OAQ(4)1879(FM)
5. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gynnig dewis i fyfyrwyr sy'n gorffen eu TGAU pan maent am ymgymryd ag addysg ôl-16? OAQ(4)1874(FM)
6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sut yr ymdrinir â chwynion i Fyrddau Iechyd Lleol ynghylch gofal annigonol neu amhriodol? OAQ(4)1878(FM)
7. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyllido teg i Gymru? OAQ(4)1883(FM)W
8. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi'r rhai sydd angen cludiant i'r lle y maent yn cael eu haddysg neu hyfforddiant ôl-16? OAQ(4)1873(FM)
9. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sefyllfa ariannol y gwasanaeth iechyd? OAQ(4)1872(FM)W
10. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Beth oedd canlyniad yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf ar y penderfyniad i wahardd ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant? OAQ(4)1865(FM)
11. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y Rhaglen Cefnogi Pobl yn Ynys Môn? OAQ(4)1869(FM)W
12. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa newidiadau y mae'r Prif Weinidog am eu gwneud yn ei raglen ddeddfwriaethol yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys ar 9 Gorffennaf 2014 ynghylch Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014? OAQ(4)1884(FM)W
13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gyn-weithwyr Allied Steel and Wire? OAQ(4)1870(FM)
14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau canser yng Nghymru erbyn diwedd 2014? OAQ(4)1877(FM)
15. Sandy Mewies (Delyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i amddiffyn pobl hŷn rhag twyll ariannol? OAQ(4)1876(FM)